a'i ddieithrio ei hun, cychwynnodd yn fyrbwyll ar draws y platfform tua'r giat oedd yn arwain i blatfform tren Llundain, a hynny pan oedd tryc trwm dan lwyth o gelfi yn cael ei wthio'n gyflym heibio, a chyn iddo fedru ei achub ei hun, yr oedd yn rowlio dan y cerbyd, ac un o'r olwynion haearn wedi myned dros ei goes.
Er bod ei wyneb fel lliain, a phoen enbyd yn ei goes, cododd cyn i bobl ddechrau ymgasglu, a chychwynnodd am y tren gan ddweud, "I am not hurt—everything is alright." Ond pan ddangosodd ei diced, "That is not your train, sir," ebe gŵr y ticedi, yn garedig, canys gwelsai ef y ddamwain. "You have at least twenty minutes before it is due to depart—you have time to get a cup of tea; hope you are not hurt, sir."
"No, thank you," ebe Parri gan droi draw, a brathu ei wefusau nes tynnu gwaed bron, yn ei ymdrech i beidio â griddfan yn ei boen, a throes at fynedfa ochr y stesion, ac aeth i'r cab cyntaf a welodd. "Princes Road," meddai wrth y gyrrwr, heb wybod yn iawn beth oedd yn ei wneud.
"Mi fyddaf cyn saffed yn hwn ag yn unman," meddai, "a diolch am gael eistedd i lawr, a chael o blith pobl."
Wrth iddynt fyned i fyny, teimlai Parri ei goes a'i droed yn wlyb, a gwyddai ei fod yn gwaedu. "Rhaid imi wneud rhywbeth i hon," meddai, "mi af i un o'r parciau 'ma, 'fydd yno fawr neb yr adeg yma o'r flwyddyn, ond mae hi'n dechrau t'wllu a mi fyddan' yn cau'r giatiau—na wir, gan gofio, mi fydd Sefton Park yn agored yn y nos. "Sefton Park" gwaeddodd ar y gyrrwr.
Wedi cyrraedd yno, ymlusgodd tuag un o'r seddau, dechreuodd archwilio'i goes a chafodd fod archoll mawr arni, ac wrth iddo ei dinoethi, gan feddwl ymgeleddu tipyn arni, dechreuodd waedu mwy, a saethodd y fath bang o boen drwyddi nes llithrodd Parri yn ei ing yn llyg i'r llawr.
Pan ddechreuodd ddyfod ato'i hun, yr oedd ei goes wedi peidio â gwaedu, ac yn brifo llai, ac meddai, "Mae'n well