Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blacmel.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

imi adael iddi fel y mae hi, na gwneud dim iddi neu fe ail-ddechreua waedu eto-mi gaf 'i golchi hi heno. Mi gymra' i gab eto i Edge Hill, ac mi af oddiyno i Lundain—fydd hi ddim yn ddoeth imi fyned i Lime Street heno.

Ond bu'r daith at giatiau'r parc, a'r sefyll i ddisgwyl am gerbyd, bron iawn yn ormod iddo; ac yn y cab, penderfynodd beidio â myned dim pellach na Manchester y noson honno. "Mae 'na ddau neu dri gwesty yn ymyl y stesion," meddai, "a siawns gen' i na fedra' i gerdded i un ohony' nhw."

Ond erbyn cyrraedd Manchester, canfu y byddai cerdded o'r stesion i'r gwesty nesaf, er mor agos ydoedd hwnnw, yn ormod iddo, a chymerth gab drachefn o'r stesion dros y bont i'r gwesty.

Ac yn ei ystafell mewn poen mawr, aeth ati i lanhau ei goes a'i bathio. "Y gwely fydd y lle gorau i mi," meddai, a chanodd y gloch. "Bring me a cup of tea, please," meddai wrth y porter a ddaeth i fyny. "and get me a bottle of iodine, too, if you can.'

PENNOD XVI
PARRI YN EI ELFEN

BU'N rhaid cael meddyg i'r gwesty at Parri y bore wedyn, ac am bum niwrnod arhosodd yn ei wely. Ond o dipyn i beth, dechreuodd y briw ar ei goes ildio i'r driniaeth, a chafodd godi, ond nid aeth i lawr i'r un o ystafelloedd cyhoeddus y gwesty ychwaith, a chymerai ei brydau yn ei ystafell wely, ac felly parhaodd nes teimlo'n ddigon da i fyned ymlaen i Lundain.

Ac er gwaethaf ei helynt, ni fethodd un diwrnod â gyrru un o weision y gwesty allan i nôl y Manchester Guardian,