môn ei freichiau, ac yn ei ysgwyddau, a rhyw anesmwythdra yn ei wddf a'i wegil, a thybiai ei fod wedi cael drafft drwy ffenestr y gwesty ym Manchester.
Nid oedd gŵr y gwesty yn ei adnabod i ddechrau, ag yntau heb ei farf, ond pan ddechreuodd siarad, adnabu ef ar unwaith. "I would never have known you, sir," meddai, "but for your voice."
Penderfynodd Parri fyned i orffwys yn gynnar, a chymryd yr arian oedd ganddo i'r banc y bore wedyn, oblegid buasai y swm mawr a gariai yn gryn bryder iddo. "Rhaid i mi fynd i'm dangos fy hun i'r bancer, heb fy marf," meddai, "gan mai yma y llechaf am sbel nes cael gwybod sut y try pethau gartre, a rhywbeth felly."
Noson ddigon anesmwyth a gafodd, oblegid dal i waethygu'n raddol yr oedd y poenau yn ei wegil. Modd bynnag, yr oedd yn y banc bore drannoeth, ychydig wedi iddo agor, a buan y profodd mai efe oedd James Jenkins. Dangosodd Mr. Wills, y rheolwr, gwrteisi mawr tuag ato, a gwahoddodd ef i mewn i'w ystafell breifat. Yno eglurodd Parri fod ganddo swm lled sylweddol o arian i'w dalu i mewn, ac agorodd ei fag, a dechrau tynnu allan nodau pumpunt a deg, ac yn eu plith y ddau nodyn ugain punt a gafodd Humphreys gan ferch yr Arolygydd Jones, a chyfrifodd y rheolwr hwy.
Ymhen ychydig, gofynnodd y rheolwr iddo'i esgusodi am foment; a phan ddaeth yn ôl, â gwên siriol ar ei wyneb yr oedd Mr. Earle, y cyfrifydd, gydag ef. Wedi i'r rheolwr eu cyflwyno i'w gilydd, ac i'r cyfrifydd fyned o'r ystafell, meddai'r rheolwr, "We are very glad to learn, Mr. Jenkins, that we shall be seeing you quite often, now that you are staying in London for some time."
Ac wrthi yn ymgomio yr oeddynt pan ddaeth cnoc ysgafn ar y pared rhwng ystafell y rheolwr ag ystafell gyhoeddus y banc. Agorodd y rheolwr banel bach, ac estynnodd un o'r clercod gerdyn iddo.