"Show the gentleman in," meddai'r rheolwr, gan roi'r cerdyn ar ei ddesg, a chyda hynny dyma ddrws yr ystafell breifat yn agor a gŵr tal ysgwyddog yn camu i mewn. Nid oedd eisiau edrych ddwywaith arno, i weled mai plisman yn ei ddillad ei hun ydoedd.
"We are very sorry, Mr. Jenkins," meddai'r rheolwr, "but we've had instructions to notify the police if these notes . ." Ond dyna'r cwbl a gafodd y rheolwr ei ddweud, oblegid yr oedd Parri wedi codi dan chwerthin yn galonnog dros y lle, a gwthio'i gadair yn ôl, a chlywai'r casïer y tu ôl i'r cownter, a Mr. Earle a safai y tu allan yn ymyl drws breifat y rheolwr, lais uchel yn dweud yn llawen, "Old Frank!—as my name is Jim Jenkins. And how are you, old fellow?" A llais llawen arall yn dweud, "Jenks, by all that's sacred, and how the devil? O! do forgive us, Mr.—y—y—Manager, we haven't met for fifteen years." A bu chwerthin mawr a miri, a thwrw codi a symud cadeiriau yn cyrraedd hyd yn oed y clercod yng nghefn ystafell gyhoeddus y banc, ac edrychodd y rheini ar ei gilydd gan nodio a wincio, gan na chlywid yn aml, hwyl a miri mawr felly yn dyfod o ystafell breifat y rheolwr.
Yna agorodd y drws, a safodd Parri ar yr hiniog gan ddweud dros ei ysgwydd wrth y swyddog yn yr ystafell dan chwerthin, "I shan't be five minutes, and the swindler must be given a day's grace, whoever he is, as Frank Dunn—detective or not—must spend to—day with me-celebrating, and don't you let him leave before I fetch him, Mr. Wills." A chaeodd Parri'r drws a chychwyn allan, gan nodio yn siriol ar Mr. Earle wrth basio.
Yr oedd y cerbyd a logasai i ddyfod ag o o'r gwesty i'r banc, yn ymyl y drws yn ei ddisgwyl, yn ôl y trefniant. Camodd Parri iddo, a chyn ei fod wedi mynd ragor nag ugain llath, meddai wrth y gyrrwr, "There's a fiver for you, and if you can make Paddington in ten minutes there will be another