Gwn am hafan lonydd
Credo tad a mam,
Gwn am forio i stormydd
Yr ofnadwy B'am.
"Gwn am boenus ameu
Sugna i ffwrdd fy ngwaed;
Colli weithiau'r goleu,
Weithiau lwybrau'm traed."
Hapus meddwl iddo ddod i wybod am doriad dydd Datguddiad hefyd—
"Ond mi wn am oleu
Llygad cariad ffydd,
Ddawnsia ar y bannau
Sy'n cofleidio'r dydd."
Beth ddarllennodd Ben Bowen pan yn lowr? Daeth cais neu ddau ataf ar i mi enwi y llyfrau a ddarllennodd yng ngwahanol gyfnodau ei fywyd. Hwyrach y gellid gwneud hyn am mai y peth cyntaf a wnelai a llyfr newydd oedd dodi ei enw arno a'r dydd y'i prynodd. Mynnai lyfr newydd bob Sadwrn tâl. Casglasai lyfrgell go dda pan yn lowr. Ond yr wyf yn crwydro oddiwrth lyfr du'r nodiadau. Ar y tudalen cyntaf ceir ei enw"B. Bowen, 160, High Street, Treorchy, Cwm Rhondda, Pontpridd, yw iawn berchenog y llyfr hwn," a'r dyddiad "Ionawr 5, 1893." Yna "Hanesion Ysgrythyrol," &c., gyda'r arwyddnod o lun llaw, yr hon a ddengys fod ganddo