ef law gelfydd. Yna ceir enw a chyfeiriad cefnder iddo—"B. Rees, 3, Off Street, Vancouver, B.C., Canada." Yr oedd yn hoff o'r cefnder hwn, er nad oes air o'i hanes wedi cyrraedd Cymru ers blynyddoedd.
Ysgrif ar Jacob yw'r gyntaf sydd yn y llyfr, a cheir nodiad iddo ei darllen nos Fercher, Chwefror 15fed, 1893. Dilynir hon gan ysgrif ar Abraham—ei hanes a'i gymeriad. Yna cawn ysgrif ar Wyrthiau Crist sydd yn dangos manylder mawr. Ar ol hon cawn bregeth ar Hebreaid xi. 3 (rhan). Cynnwys hon, er ei bod yn fachgenaidd iawn lawer o bethau diddorol. Dilynir hi gan fraslun pregeth arall ar y testun "Pa faint gwell yw dyn na dafad?" Dengys hon gynnydd amlwg.
Wrth fynd rhagom ceir nodiadau ar rai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllennodd. Y mae rhai o'i nodiadau yn Gymraeg a'r lleill yn Saesneg. Ai dyfyniadau ydynt neu nodiadau o'i eiddo ef ei hun, nis gallaf ddweyd gyda sicrwydd. Cymerer un Saesneg, er engraifft,—"One of the purest impulses a young man can have in life is the desire to give his parents reason to be proud of him." Tybed nad eill pobl ieuainc Cymru heddyw gael ysbrydiaeth o'r arwyddair hwn.