RHAI O'R LLYFRAU DDARLLENNODD BEN BOWEN PAN YN LOWR.
Y LLYFR diwinyddol cyntaf a nodir yn y llyfr du yw "Studies in Theology (Denny). Ysgrifennodd ei nodiadau arno yn Gymraeg gan mwyaf, a gwelir iddo ei ddarllen yn fanwl. Yn nesaf daw "Self Culture" (Rev. W. Unsworth). Ysgrifennodd ar hwn amryw dudalennau o nodiadau Saesneg. Cymerer un frawddeg ar antur—"Many doubts are born of impurity. Breathe on a glass and you cannot see through it."
Yna daw "The Theology of the Old Testament" gan W. H. Bennet, M.A. Ysgrifennodd yn helaeth ar hwn eto yn y Saesneg.
Dau lyfr Cymraeg ddaw nesaf, sef "Yr Iawn" a "Chysondeb y Ffydd," gan Dr. Edwards, y Bala. Mae'r nodiadau ar y rhai hyn yn Gymraeg, ac yn dangos cryn feistrolaeth ar lyfrau anodd.
Yn nesaf daw'r "Natural Law in the Spiritual World" (Drummond), a nodiadau Saesneg helaeth arno. Llyfr y cofiaf ef yn ei ganmol yn fawr yw, "Is God