Knowable," gan J. Iverach, M.A.; bu darllen hwn yn gadarnhad i'w feddwl. "Helps to the Ministry" (Rouse, M.A., India), sydd yn dilyn. Y mae'r nodiadau yn Gymraeg. Daeth y llyfr hwn i'w law drwy y Parch. T. E. Waters, Mount Elim, Pontardawe, oedd yn ddyn ieuanc yn y Rhondda ar y pryd.
Yna daw "Athroniaeth Trefn Iachawdwriaeth," gyda nodiadau manwl yn Gymraeg. A'r llyfr olaf a nodwn yn awr yw "The Mind of the Master" (Ian Maclaren). Ceir ar hwn eto nodiadau manwl yn Saesneg yn dangos craffder mawr.
Dyna i ti, ddarllenydd ieuanc, enwau ychydig o ysgrifau cyntaf Ben Bowen ac enwau rhai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllennodd ac a fyfyriodd yn fanwl pan yn grwt ieuanc, ac yn gweithio yn galed fel glowr ar y pryd.
Ysgrifennodd unwaith ar lyfr o'm heiddo ddihareb Saesneg mewn llawysgrif fras "Spare moments are the gold dust of time." A hynny oeddent iddo ef mewn gwirionedd. Unwaith y cydiai Ben Bowen mewn llyfr, nis gollyngai ef hyd nes y byddai wedi ei feistroli ac argraffu ei gynnwys ar ei gof.