Gwirwyd y dudalen hon

BEN BOWEN.
NODAU O DELYN A DORWYD YN GYNNAR.
I. RHAGYMADRODD.

MGAIS yw hon o'n heiddo i gasglu briwfwyd cofiant a barddoniaeth Ben Bowen. Mae nifer helaeth o ffeithiau ac o ddigwyddiadau yn sicr o fod yn help i alluogi'r ysgrifennydd, pwy bynnag fyddo, i ysgrifennu cofiant teilwng. Hebddynt y mae cofiant yn amhosibl. O'r ochr arall buont yn fagl i aml un droion, nes y cuddiasant lwybr yr hanes â phentyrau o ffeithiau sychion. Cydnabyddwn mai yng ngoleuni ffeithiau a digwydd-