iadau yr esbonir cymeriad orau; a chredwn y bydd y ffeithiau a'r digwyddiadau ddygir ger eich bron am Ben Bowen yn rhyw gymaint o help i chwi a ninnau ei ddeall yn well. Nid ydym am ddweyd fod llawer o gymylau o'i amgylch fel ag i beri unrhyw aneglurder ynddo. I ni, yn naturiol, yr oedd heulwen ar ei wyneb yn barhaus, a thorriad dydd o hyfrydwch yn swn ei lais bob amser, a phob ymgom yn codi ynom awydd am ymgom wedyn.
Nid ydym am ddweyd ein bod yn deall yr hyn oll a ddywedodd, ac a ysgrifennodd. Er ieuenged ydoedd, rhaid ym— deithio gam neu ddwy ymhellach i'r dyfodol, yn ol barn y mwyafrif, cyn y deallir ef oll yn oll. Gwyn fyd na chofiasem hanner ei ddywediadau. Ystyrrir ef erbyn hyn fel yr "Addewid fwyaf gafodd Cymru erioed," a'i awen fel Awen braffaf Cymru Fydd." Dro yn ol y dywedai Owen M. Edwards, "Ca Ben Bowen le mewn cân fel ca Tom Ellis mewn hanes." Rhyfedd cyn gynted y dechreua ei broffwydoliaeth ddod i ben. Ar raglen Eisteddfod Cymry Johannesburg, Mehefin (1905) cyhoeddwyd darlun o Ben a Tom Ellis ar yr un tudalen—wyneb yn wyneb, fel dau genius ieuanc Cymru.