II. MEBYD AC ENWAD.
HYD y gwyddom, ni ddigwyddodd i'r un seren neilltuol ymddangos ar ddydd ei enedigaeth; ond fe fu engyl o lawenydd yn canu yng nghalonnau y teula.. Wrth odre Moel Cadwgan yn Nhreorci y ganwyd ef, Hydref 19eg, 1878. Nid hir y bu cyn dechreu'i ddringo. Hoff oedd o'r myn- ydd erioed. Treuliai oriau ar ei lethrau pan yn blentyn, a'i awydd olaf oedd cael pabell ar ei fynwes, er ceisio gwella'i glwyf.
"O! 'rwy'n caru pwyso 'mhen
Yma o hyd ar ei obenydd,
Rhwng chwareuon rhydd y nen.
Beth fel trymgwsg y mynyddoedd
Sydd yn gallu deffro dyn?
Miwsig Gwynfa yw'r distawrwydd
Adnewydda'r galon flin."
Ar arffed ei fam y dechreuodd ddysgu. Hyhi gafodd ei holi gyntaf ganddo, a gallasai hithau, yn herwydd lliosogrwydd ei holiadau orchymyn, fel Golyddan ieuanc gynt,—"Peidiwch holi heddyw." Er hynny, breintiwyd ef â mam oedd yn fedrus ar y ddawn o ateb cwestiynau. Bu felly yn alluog i'w hyfforddi a'i dywys i borfeydd gwelltog diwylliant a chred.