Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei fam yn un Biwritanaidd iawn,—yn credu mai ar yr aelwyd, ac yn y capel, y gellid rhoddi yr hyfforddiant ddiogelaf i'r plentyn. Profodd gyrfa bywyd Ben Bowen fod ei chredo yn iach. Yr oedd yn bregethwr ganddi oddiar pan y dechreuodd barablu, ac hoff oedd ddangos ei ben hir a'i dalcen uchel i bwy bynnag a ddeuai i'r ty, a chan dynnu ei bysedd tyner trwy ei wallt euraidd, dywedai, Dyma ddyn mawr ddaw hwn."

Er ei bod yn hoff o farddoniaeth, ni freuddwydiodd wrth ei alw yn Ben Bowen fod ei enw yn fwy barddonol nag ugeiniau o ffugenwau. Cyhoeddwyd, a chynganeddwyd ei enw yn "Ben Bowen y bardd ar yr aelwyd, ac ar y chwareule o flaen capel Hermon, Treorci, cyn adeiladu yr ystryd honno sy'n gwynebu y capel, a chan lowyr lu yng Nglofa Ty'n y Bedw, cyn i Brynfab erioed wneyd sylw o hono, er i Brynfab dalu sylw cynnar iawn iddo. Ond ni wyddent hwy eu bod yn cynghaneddu yr enw wrth ei alw yn Ben Bowen y bardd" fel Brynfab wrth gwrs.

Fe'n cyfiawnheir yn ddiameu gan bawb am yr ymdrech sydd ynom am ddiogelu cymaint ag sy'n bosibl o'i hanes, ac o'i gynyrchion, pe tae yn unig ar gyfrif