Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai "telyn a dorwyd yn gynnar" ydoedd yntau, a'i "miwsig wedi swyno'n cenedl droion." Hefyd, am mai gweithiwr ieuanc oedd, a dorwyd i lawr a'i blans ar ei hanner." Tynnodd blans manwl allan yn ei fore bore. Gorffennodd Schiller un o'i fwriadau ef cyn cyrraedd o hono ei bymthegfed mlwydd oed. Dyna'i oedran, mae'n debyg, yn gorffen ei arwrgerdd i Moses. Tynnodd Ben hefyd gynllun drama Gymreig allan, ond ni ysgrifennodd air o honi ar lenn. Clywsom fraslinelliad o honi. Yr oedd wedi gosod ei nod ar y gadair a'r goron genhedlaethol, ac am eu meddiannu cyn dechreu cario ei gynlluniau allan.

Tynnodd gynlluniau allan i weithio yn ei enwad ei hun. Pe yn iach, buasai wedi hen ysgrifennu a thraddodi darlith ar Vavasor Powell, ac wedi hen ddechreu traethu ar ragoriaethau Cynddelw. Gofidiodd am nad oedd ei awdl ar "Ddistawrwydd" yn daran yng nghlustiau y genedl Gymreig, a'i weithiau llenyddol i gyd wedi hen ddyfod allan drwy oleuni dydd y wasg, ac yng ngafael y bobl. Ystyriai Cynddelw yn un o'r dynion mwyaf gododd y genedl, ac heb os yn un o feddylwyr mwyaf y Bedyddwyr. Ar un o dudalen-