Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byth yn tyfu yn Fedyddiwr mor eangfrydig, ac yn un fuasai yn peri cymaint o gynnwrf ar gwestiwn y cymundeb. Credodd efe yr adeg honno, er nad oedd ond pedair ar ddeg oed, nad oedd y drydedd bennod o Fathew, fel y gwelir hi gennym ni yn y cyfieithiad presennol, yn ddigon cadarn ar y pwnc o Fedydd. Mynnodd ddysgu y bennod honno yn ol cyfieithiad John Williams yn yr "Oraclau Bywiol," lle y cyfieithir bedydd yn drochi, neu dansuddiad, a'i hadrodd un nos Sul ar ddechreu'r odfa o flaen y bedydd. Os y daeth cyfnewidiad dros feddwl y Bedyddiwr ffyddlon, ni chyfnewidiodd ei serch a'i gariad o gwbl at ei enwad fel ag i beri yr holl gamesbonio hwnnw gynt,—

"O! fy enwad, 'rwy'n dy garu,
Ac yn methu, methu cefnu;
Ac os wyf yn cyfeiliorni,
Oni ddylet faddeu imi?"


Ni feddyliodd efe erioed am geisio difodi dim oedd yn perthyn i'w enwad. Am ei wella, a'i eangu, yr oedd efe, i'w alluogi i gymeryd maes eangach o dan ei draed ym mrwydrau'r genedl. Dyna pam y bu efe farw'n Fedyddiwr, ie, "er mwyn