Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eangu cylch meddyliol y Bedyddwyr," a hynny yn unig, a dyna'i gyfaddefiad yn un o'i lythyrau.

Dechreuodd lenydda yn fore. Ar gyfer dosbarth Beiblaidd gynhelid ym Moriah, Pentre, dan lywyddiaeth Mr. Griffith Jones (Abertridwr yn awr), y dechreuodd ysgrifennu. Dosbarth Beiblaidd i blant ydoedd, a chafodd amryw o lyfrau a rhai darluniau, megis Spurgeon, &c., gan yr athraw caredig hwn yn rhoddion am ei weithgarwch a'i ffyddlondeb. Daethom o hyd i rai o'r ysgrifau mewn ysgriflyfr yn ddiweddar. Ceir yn hwnnw ysgrif ferr ar Jacob, un arall ar Abraham, ac arall ar "Gwyrthiau Crist," a phregeth fechan ar "Y rhai nid oedd y byd deilwng o honynt." O gwmpas y tair ar ddeg, neu'r pedair ar ddeg oed o bellaf, oedd pan y cyfansoddai hwynt. Hawdd canfod y meddyliwr o tanynt; er yn anaeddfed iawn, wrth gwrs.

Dau ofyniad welodd yn yr adnod, sef (1) Pwy a ddeallir ydyw y rhai nad oedd y byd deilwng o honynt; a (2) Beth oedd y rheswm nad oedd y byd deilwng o honynt? Yna â ymlaen i draethu ar arwyr pennod fawr y ffydd—"Westminster Abbey Ysbrydoliaeth," chwedl Rhos-