Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynog; ac yn yr ail le profa nad oedd y byd deilwng o honynt am mai dynion sanctaidd Duw oeddynt, ac am na roddodd y byd y parch dyladwy iddynt, ac yna daw ag adnod yn ddiweddglo i'w ymresymiadau, "Mi a'ch dewisais chwi allan o'r byd, am hynny y mae y byd yn eich cashau chwi."

Arferai yr hen frodyr William Jones, Dafydd James, William Young, John Lewis, &c., arweinyddion cyfarfod gweddi y bobl ieuainc ym Moriah, Pentre, yr adeg honno, roddi adnod i bob un o'r bechgyn tua pythefnos ymlaen llaw er mwyn iddynt gael amser digonol i ddarparu. Ac un o'r testynau hynny oedd hon. Fel rheol, ni chelai neb gymeryd rhan ynddynt cyn ei fedyddio; ond cofus gennym am Ben yn cael ei alw un nos Sadwrn gan yr hen frawd parchus Dafydd James; a'r nos Sadwrn hwnnw y daethom ni i sylweddoli fod rhywbeth yn Ben. Mae swn ei weddi ieuanc, goeth, yn glynu yn ein clustiau o hyd. Gwyn fyd na fuasem yn cofio darnau o'i weddiau. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn credu yng ngallu gweddi, ac yn dal cymdeithas cyson â'i Dduw. I ni, deuai llawer o'i wir fawredd i'r golwg yn ei weddiau. Yr un pryd,