credai mewn gweithio ei hunan yn ogystal a gweddio. Gwelai ef weddi ffyddiog mewn gweithio fel mewn gweddio, a chymaint o ffydd mewn disgwyl ag mewn gofyn. Ond tarawodd y tant yn gynnar,
"O 'rwyf yn caru'r Iesu,
Gwnaf bopeth fel gwnaeth ef;
Rhaid gweithio a rhaid caru
I wneud y byd y nef."
III. Y CANEUON CYNTAF.
DAETH o hyd i anhebgorion bywyd da a llengar yn ieuanc iawn. Tystiolaetha ei gynhyrchion hyn. Ymhlith rhai o'i bethau cyntaf ceir nifer o benhillion ar "Weddi Ddirgel," "Diwydrwydd," a'r "Llyfrgell." Tybed fuasai yn bosibl i unrhyw fardd ieuanc ddymuno a chanu ar destyn mwy pwrpasol na "Gweddi Ddirgel" i gychwyn? Er mwyn rhoddi engraifft o hono fel bardd yn ieuenctyd ei ddydd, ac er mwyn dangos rhai o sylfeini cryfion ei gymeriad, fe gyhoeddwn y caneuon canlynol fel yr ysgrifennodd hwynt.