Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWEDDI DDIRGEL.

Rhywbeth llawn o swyn i'r Cristion
Yw cael presenoldeb Duw,
Mewn dirgelfan, o swn dynion,
Dyma'r fan lle'r hoffa fyw;
Yma, mae yn cymdeithasu
Gyda'i Dduw yn wresog iawn;
Ac yn cael yn haeddiant Iesu
Wledd o basgedigion llawn.

Yn y dirgel ymarfoga
Ag arfogaeth dwyfol râs,
A thrwy allu rhain gorchfyga.
Gryfaf allu'r diafol câs;
Ac er amled yw y rhwystrau
Sy'n ei aros ef bob dydd,
O dan wenu fe'u gorchfyga,
Nid oes dim ddiffodda'i ffydd.

Gristion anwyl! os am gyrraedd
Hardd drigfannau'r nefol wlad,
Cofia'r weddi ddirgel euraidd,
Hon rydd iti wir fwynhad;
A phan fydd dy gorff yn huno
O dan glo yr oeraidd fedd,
Bydd dy enaid glân yn nofio
Moroedd o dragwyddol hedd.


Dydd Mawrth, Mawrth 27, 1894, yw'r dyddiad sydd oddi tanynt. Tua phymtheg oed oedd, felly, yn eu cyfansoddi. Yna wedi gosod y grediniaeth i lawr fod y weddi ddirgel yn un o hanfodion