bywyd da, try ei olygon i raddau i gyfeiriad arall, a gwel wedyn fod yn rhaid i bob un fod wrthi yn ddiwyd ac yn ddyfal i ennill y gamp. O dan gymhelliad y grediniaeth hon y cyfansoddodd ei benhillion ar "Ddiwydrwydd" tua'r un adeg.
Mae diwydrwydd gwir i'w ganfod
Drwy holl natur ym mhob man,
O'r hen dderwen ddewr ei hanfod,
Lawr hyd at y blodyn gwan;
Y wenynen ddiwyd, addien,
A'r morgrugyn bychan, gwan;
Roddant wersi inni'n llawen,—
Trwy ddiwydrwydd dowch i'r lan.
O edrychwn ar y cewri,
A pha fodd yr aethant hwy
O erch waelod hen bwll anfri
I anrhydedd heb un clwy;
Ai trwy fod yn ddiog diog
A gwangalon ym mhob man?
'Dwed y rhwystrau orchfygasant,—
Trwy ddiwydrwydd aethant lan.
Os ym 'nawr yn isel isel,
Mewn dinodedd tywyll du,
A hen greigiau mawr aruchel
O anhawster ar bob tu,
Wedi ceisio dringo weithiau,
Methu wedyn yw ein rhan,
Dringwn eto drwy y rhwystrau,
Trwy ddiwydrwydd awn i'r lan.