Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dacw Gristion mewn mawr rwystrau,
Yn ymdrechu'n galed iawn,
Mae am rodio drwy ei ddyddiau
Yn ardderchog lwybrau'r Iawn,
A thrwy galed ymdrechiadau
Nef y nefoedd ddaeth i'w ran,
O! cyd—ddringwn hyd awr angau,
Trwy ddiwydrwydd rhaid mynd lan.


Cariodd yntau y gredo uchod allan ar hyd ei oes. Ni wyddai efe nemor i ddim am yr oriau segur; gwyddai o'r gore beth oedd oriau distaw neillduaeth, a'r rhai hynny oedd oriau euraidd bywyd iddo ef. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar waelod y pwll glo; yr un modd ar fwrdd y llong wrth fynd a dod o'r Affrig. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar ei wely cystudd. Trodd hwnnw droion yn llyfrgell, fel y gwnaeth Sion Wyn o Eifion a Ieuan Gwynedd gynt. Cafodd yntau weledigaethau heirdd oddiarno, a theimlodd mai "dan law Duw dyna le da," a gwelodd gyfyngder dyn" droion yn cael ei droi yn awr Duw."

Dywedodd un awdur, dro yn ol, mai dyn anonest yw'r dyn hwnnw droa oriau gwaith yn oriau myfyrdod, am mai arall a'u piau. Druan o hono; beth ddywedai pe gwelsai ambell i dalcen glo o dan y