ddaear wedi ei gyfrodeddu a llinellau barddonol—ambell i "ddrws" wedyn wedi ei gyfrodeddu a nodau cerddorol, fel y darfu i Gwilym Gwent wneud droion. 'Does gan yr awdur uchod yr un syniad am y gwaith meddyliol wna ambell i fardd o lowr rhwng y troion yng ngoleuni y lusern bwl" chwedl Myfyrfab. Nid angof fydd y darnau barddonol gyfansoddwyd yn y talcen glo yng Nglofa Ty'n y Bedw.
Ym Mehefin, 1893, agorwyd llyfrgell glowyr Ty'n y Bedw a'r Pentre. Buan y dilynodd glowyr Parc a Dare. Wedi codi y llyfrgelloedd a nodwyd, wele Ben ati i ganu cân o glod i'r llyfrgell, a chafodd wobr mewn cwrdd llenyddol yn Nhreorci, Tachwedd 24ain, 1894, am dani. Teimlodd swyn wrth ei henwi," ond "mwy wrth fyfyrio ynddi."
Ardderchog lyfrgell! Mae swyn wrth ei henwi
Ond mwy wrth fyfyrio yng nghanol ei stôr;.
Ein holl gyhoeddiadau a'n llyfrau geir ynddi,
Ond coron ei chyfoeth yw Beibl ein Hior;
I'r tlawd na all brynu y llyfrau goreuon
Gostynga yn isel i'w ddysgu heb ball,
A'i gallu rhyfeddol yn ddoethach gwna'r doethion,
A dan ei dylanwad y ffyliaid wna'n gall.