iau a Chred. Aeth i feddwl, ac i fyw o ddifrif. Darllenai yn ddibaid, a chyfansoddai yn achlysurol, nid yn ddyddiol fel y gwnelai gynt. Treuliai wythnosau weithiau heb gyfansoddi llinell o farddoniaeth, a phan elai ati wedyn treuliai ddyddiau didor yng nghwmni Ceridwen. Ni chredai mewn rhuthro ar destyn ar unwaith. Pan y cyffyrddid ef fel rheol â swyn testyn, gadawai i'r testyn suddo yn ddwfn i'w galon; mewn gair, hyd nes yr elai yn rhan o hono. Dywedai wrthym yn fynych, Paid a rhuthro at destyn, aros am ychydig o ddyddiau er mwyn i ti gael gweld sut y byddi yn teimlo ato wedyn. Yna, os y teimli ei swynion yn goglais dy serch, gad iddo suddo i dy galon, fel y gallo fynd yn rhan o honot, yna fe elli ganu o galon iddo wedyn."
V. BEN Y PRYDYDD.
GOFYNWYD yn ddiweddar i un go wreiddiol am nodi y gwahaniaeth rhwng prydydd a bardd. Wel," ebai, "fe wna prydydd bennill neu englyn digrif cyn y caui dy lygaid; ond y mae bardd am oriau i'w feddwl ac oriau i'w ysgrifennu."