Beth bynnag am gywirdeb y desgrifiad, yr ydym yn yr adran nesaf am geisio dangos. i chwi fod cryn dipyn o'r prydydd yn "Ben Bowen y Bardd."
Un difyr yw bardd ym mhob oes, tery ei dant mor ddidaro a'r aderyn ar fore o haf. Pryd arall dylifa doniolwch ac ysmaldod dros ei fin, a cheidw ei gyfeillion yn llawen iawn. Er amled cystuddiau Ben Bowen, bendithid ef ag oriau diddan ryfeddol, a chaent groeso ganddo bob amser bron, yn enwedig wedi i'w iechyd dorri lawr. Wedi oriau o ymgodymu â phroblemau cred, neu wedi oriau o boenau dirdynol gan afiechyd, y caffai ei feddwl falm o esmwythâd drwyddynt. Yn yr egwyl rhwng y tonnau hyn y cyfansoddodd lawer o linellau difyr; a chlywsom aml i ddywediad hapus ganddo. Mwynheai ystori dda, ac yr oedd mor hoff a neb of adrodd ystori ei hun. Tybiasom y buasai llawer o'r dywediadau a'r llinellau hyn yn dderbyniol gan ein cyd-wladwyr. Dangosant agwedd ar ei gymeriad, yr hwn yn ddiau a esgeuluswyd i raddau yn ei Gofiant a'i Farddoniaeth. Tybiasom yr adeg honno mai ein dyledswydd fel golygydd oedd cyflwyno'n brawd i'r wlad yn y modd puraf posibl.