Haf 1897 aeth Ben a ninnau at Myfyrfab ein cefnder i dreulio ein gwyliau; ac ar un o'r dyddiau hynny y ceisiasom ganddo ysgrifennu ychydig o eiriau gartref. Heb un gwrthwynebiad cydiodd Ben mewn post-card ac ysgrifennodd yr englynion canlynol gartref at ein tad,—
O nhad bach, mae Dai a Ben—yma'n awr
Mewn hwyl, yn eu helfen
Yn mwynhau gwir gwmni hen
Gawr hoewaf—Mangre Awen.
Yma'n y Fron, mae un o fri—yn byw,
A Ben yn ei gwmni;
A Dai wedyn mor deidi
A chwrcyn, man hyn, am wn i.
Rhyw ysgolor esgeulus—a boy
Heb ei ail; mor hapus
A'r gog wyf; corgi o'i go'
Yw nas carco'r siawns carcus.
Hedd ddwg hynt yn ddigeintach—feddaf fi,
Hedd i fardd a chorach;
I wella fy nghyfeillach
Bywya i Ben bu Dai bach.
Rhed awr o hedd wedi'r hwyl,
Bachan iawn, bachan anwyl.
Ein chwaer Ann gofiai yr englynion uchod. Cyfeiria "bachan iawn, bachan anwyl" at un o arferion diniwed Ben ar