yr aelwyd gyda'n tad. Pan barlyswyd ein tad ni alluogwyd ef i siarad nemawr o eir- iau wedi hynny; ond byddai Ben yn aml fel pe yn tynnu geiriau o'i enau. Yr oedd gyda'n tad yn hollol fel mam gyda'i phlentyn. Holai ef weithiau, pa un o'r plant oedd y pet, ac yna, fel rheol, gwelid y tad parlysedig yn tynnu ei law dadol dros ei ben. Wedi ei gael i wneud hynny, elai gam ym mhellach. Rhaid oedd cael ein tad i ddweyd "y machan anwyl i"; ac fel rheol llwyddai gan ein tad i ddweyd hynny. Mewn digrifwch diniwed felly yr hoffai Ben dreulio ei oriau hamddenol ar yr aelwyd. Erys y cyfnod hwnnw yn wynfydedig ym meddyliau bob un o'r teulu fyth. Ar adegau o'r fath y buasai Ben hefyd yn dweyd mai
Bachan nêt yw Dai bach ni;
Ond Ben yw'r good boy inni.
Yn y cyfnod nodedig hwn y brigodd yr haenau tyneraf welsom yn natur garedig ein brawd i'r golwg. Nid anghofiwn ef yn mynd a dod a'n tad o'r capel; dro arall yn ei gludo mewn cludfa bychan pan, oedd yn analluog i gerdded cam; wedi i'n tad wella ychydig wedyn, yn mynd ag ef a'i ysgwydd o dan ei gesail chwith, a