Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

braich nhad am ei wddf yntau wedyn, a dyna lle'r oeddent yn mynd yng nghlwm efo'i gilydd; a'i ymgais drachefn gydag ef ar lawr y llofft y bore cyn dod ag ef i lawr dros y grisiau er mwyn ystwytho ei gymalau pan y buasai yn dweyd,—

O nhad bach yn awr neidiwn.
I Barade y bore hwn.


Ond o bopeth, yr hyn aeth ddyfnaf at ein calon oedd ei weled yr wythnos olaf y bu ein tad anwyl fyw, pan yr oedd wedi ei barlysu i bopeth—methu siarad, methu gweled, methu syflyd llaw na throed, dim ond fod yr anadl yn tramwyo ynddo; a phan oeddem fel plant o amgylch ei wely marw yn methu dweyd yr un gair wrtho, y mynnai Ben gadw ei fraich oddi tano er mwyn iddo gael teimlo" meddai ef, "fod rhywun yn ei ymyl ar awr mor gyfyng," er ei fod yn credu fod y Duw a wasanaethodd yn nes na phlentyn iddo, ac yn nes na'i fraich dyner ef. Yr oedd cariad Ben yn angerddol at ein tad.

Danghosodd merch ieuanc o'r enw Jane ei darlun iddo un tro, cydiodd yntau yn y darlun gan ysgrifennu ar ei gefn,—