Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ond o bawb o ffryndiau Ben,
Y cuaf yw Jack Owen.
Dro arall, tra'n cyfeirio at ei gystudd,―
Fe wyr Ior beth sydd orau,
A rhyw ddydd fe ga'm rhyddhau.
Yn un o'i lythyrau atom ninnau ysgrifennodd,
'Rwy'n caru swyn dy awen gun,
Ond llawer mwy tydi dy hun.
Ebai ar dro arall,—
Seigiau'th funudau segur
A ddaw i Ben yn wledd bur.
Cynghorai ni'n ddoeth iawn drachefn un tro tra oddi-cartref,—
Cei bob pleser, frawd, a thangnef
Wrth fyw cartref oddi—cartref.
Awst, 1898, cyd-dreuliem ein gwyliau haf ar lannau Twrch gyda'n cyfaill Myfyr Twrch. Yr wyl oreu er hynny i Ben oedd treulio ychydig o oriau distaw mewn llyfr. Ond fel rheol rhywbeth syml ei nodwedd ddarllenir yr adeg honno. Ond erthygl ar yr Ymgnawdoliad yn un o lyfrau y