Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. Owen Evans, Llundain, ddarllenai Ben. Wedi ei darllen gwelsom ef yn ysgrifennu englyn uniongred iawn,—

O! Gaddug sy'n ddadguddiad—oni ddeil
Ynddo'i hun esboniad;
Moroedd o Iawn am ryddhad—Dyn a Duw,
Ac un yw Diluw yr Ymgnawdoliad.


Yr un pryd bron yr ysgrifennodd am y Duw—ddyn, mai

Ym mhyrth ei ddyndod
Y profai ei Dduwdod.


Ar un o'r dyddiau aethom i lawr i Bant Teg i weled y Prif-fardd Ben Davies a'i gadeiriau. Cerddai Ben yn y canol rhwng Myfyr Twrch a ninnau,—"Wel, wel," ebai yn sydyn, "dyma fi yng nghanol myfyrdod mewn gwirionedd yn awr."

Rai blynyddoedd yn ol ysgrifennodd y Parch. Aaron Morgan, Blaenffos, a Gwili, nifer o benhillion i Seren Cymru. Y blaenaf ar "Gwaedda," a'r olaf ar "Gên Asen," un am feddwl a'r llall am hyawdledd mewn pregeth. Credai Ben Bowen, er mai bardd—lowr oedd ar y pryd, mai cyfuno'r ddau yn un oedd yn angenrheid-