Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol, ac ysgrifennodd y penhillion canlynol o dan y pennawd "Cynghanedd," a danfonodd hwynt i Seren Cymru mewn atebiad iddynt,―

Swyno fy nghlustiau o frigau y coed
A wnai yr aderyn â'i alaw;
Swyno fy nghalon mor fyw ag erioed
'Run pryd wnai y blodyn distaw.

Haf fu'n addurno y pren mor wyrdd
Cân bulpud i'r tlws aderyn;
Haf gyda'i swynion yn weision fyrdd
Fu'n gweu sídan—fantell y blodyn.

Dysgodd i minnau fod yn y byd
Ddwy ochor i ddalen Bywyd;
Nid yn y "gwaedda" mae'r pwys i gyd
Ond "pa beth a waeddaf" hefyd.

Ac onid cynghanedd, fy mhrydferth fardd,
"Gen asen" yn nwylo Samson,
A'r llwyddiant gwynfydig a hardd,
Ddwg "udgorn" a ffydd Gideon.

Ah! "ni lefarodd dyn erioed
Fel hwn" ydyw'r ddolef o'r dyrfa;
Ond "Iesu a dawodd" sydd yn y llys,
"Llef uchel" sydd ar Galfaria.


Darluniai wr ieuanc un tro yn

Morio o hyd mewn mawr wyll,
Enaid icuanc! mae'n dywyll.