Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. YMDDIDDANION.

DEUWN, yn yr adran hon, yn nes at Ben eto, i fyd yr ymddiddanion personol. Yn yr ymddiddanion hyn y cawsom ni lawer o fudd, a llawer o ddifyrwch diniwed, ac o foddhad chwaethus. Tybiasom y buasai llawer o'r dywediadau hynny erys yn ein cof yn dderbyniol gan ei edmygwyr.

Cychwynwn gyda rhyw bedwar o'i ddywediadau dderbyniasom oddiwrth ei gyfaill, y Parch. David Rhydderch, B.A., Llanddyfri, Capel Seion, Pontyberem, yn awr.

1. Yr oedd cyd-fyfyriwr yn canmol gallu athraw mewn rhifyddeg; ond cymerai Ben mai pysgota a rhifo cynnwys y rhwyd oedd hoffwaith yr athraw yn ystod y tymor hwnnw ar y Sabothau. Ac meddai Ben,—"Diau ei fod yn gampwr mewn rhifyddiaeth; ond nid yw yn dysgu'r gamp o rifo ei ddyddiau fel ag i ddwyn ei galon i ddoethineb."

2. Honnai bachgen unwaith mewn cwmni y medrai ef ddysgu iaith estronol drwy'r gramadeg heb ymgymysgu â'r brodorion. Gwyddai mwyafrif y cwmni fod hyn yn hollol groes i farn aeddfed yr athrawon. Gorffennodd y bachgen ddadleu pan y dywedodd Ben wrtho,"—Fedrwch