chwi fyth ddysgu'r iaith yn berffaith drwy ramadeg yn unig, byddai yr un mor hawdd dysgu nofio wrth yfed dŵr. Ymdeflwch i blith y brodorion a chewch fwy o amser wedi hynny at bethau eraill."
3. Pelydrai ystyr newydd drwy ambell frawddeg dan lygad Ben—y cyfan yn ffrwyth camgymeriad. Darllenai lyfryn bychan ar Lenyddiaeth Gymreig, a daeth ar draws cyfeiriad at Islwyn, nodiad oedd am ei ddieithrwch a'i ddisgleirdeb. Ond, yn lle darllen,—"Awen yn disgleirio bryd arall," darllenai Ben," Awen yn disgleirio byd arall." Pe darllenid ambell lyfr drwy lygaid byw Ben, ymsythai llawer awdur yng nghanol gogoniant benthyg.
4. Ymbiliai â ffrynd dros gyfaill mewn cyfyngder. Gwyddai nas medrai'r ffrynd wrthod y cais a bod yn onest. Pan welai amheuaeth yng ngwedd y gŵr, dywedodd, "Please give your anwser Yes or No. Remember there is music in a No if it rings forth from an honest heart." Gwyddai mai y galon ddichellgar gyfrifa am ruddfan y byd.
Cynghorai lliaws Ben Bowen tuag adeg "Ystorm y Cymundeb Rhydd" i dewi a son, er mwyn ei enw da, ac er mwyn cadw ei glod i fyny, pryd yr atebodd,—"Ddaeth