Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neb erioed yn dew ar glod, a chadwed pob crechyn ei gloch yn ei boced o'm rhan i. Gwirionedd fel cyfrwng dadguddiad yw fy motto i. Aed corachod a'u clod a'u baldordd i'r man y mynont. Yr wyf erbyn hyn yn clywed hissiau penboethiaid yn y pellder, ac nid oes arnaf fwy o ofn corach o gritic nag sydd o ofn Chamberlain ar Lloyd George."

Yr oedd am deimlo anadl rhyddid ymhob cylch, y cylch barddonol fel y cylch crefyddol. Dengys ei awdl ar "Ymadawiad Arthur" beth oedd ei syniad am y mesurau, ynghyd a'i bryddest ar "Oleuni y Byd," am yr hon y dywedodd,—"Rhedodd allan fel ffrwd o'r graig, ac nid oes lliw waterworks pibau Mesurau Eisteddfodol ar yr un llinell ynddi."

Ond er yr holl ryddid gymerodd, yr oedd yn ofalus iawn o bethau eraill, yn enwedig yn ei ddewisiad o eiriau. Ac onid yw y cyngor canlynol roddodd i fardd-lowr yn engraifft deg o'i syniad am farddoni,— Craffa ar ystyr geiriau. Bydd yn sicr o dy feddwl dy hun. Mynn weld fod y gair iawn yn y lle iawn. Nid llanw dram yw barddoni, ond sorto diamonds a'u trwsio.

Pan oedd yn aros yng Nghaerdydd ysgrifennodd un lythyr lled frwnt ato, ateb-