Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd Ben ef gyda throad y post,—"Syr, carwn i chwi gofio mai glo ac nid rubbish sydd yn cael ei dipio yng Nghaerdydd."

Tra yn siarad am ddynion gwyneb— agored a phlaen un dydd y dywedodd,— Fydd neb byth yn rhy blaen, bydd llawer yn fynych yn rhy flunt." A dynion gwyneb-agored a ffri yr hoffai efe gymdeithasu bob amser. Dod i gyffyrddiad ag un gariai lond ei lygaid o ddagrau, ac a gadwai bob ceiniog yn ei boced ac na wnelai gymwynas a neb, barodd iddo ddweyd,—"Ofer cario dagrau ar ruddiau heb gyrn ar ddwylo."

Amddiffyn efrydydd ieuanc anaddfed a'i cymhellodd i ddweyd,,—"Mae diffyg yn brawf o bosibilrwydd gwell."

Mewn cyfeillach grefyddol un tro y dywedodd hefyd,—"Mae mwy yn gofyn i Dduw am fendith nag sydd yn gofyn am waith." Ar dro arall," Mae Duw yn rhoi er mwyn ein cael ni i geisio yr hyn y mae yn gadw." Gwir hefyd y dywedodd, "Rhaid cael dyn i lyncu ysbryd awdur. Parrot sydd yn dysgu ei syniadau."

Bwriadai gyfansoddi pryddest ar Uffern a dechreuodd arni hefyd. Pe tae wedi mynd ymlaen credwn y buasai wedi cyfansoddi pryddest alluog. Bwriadai