gael pedair golygfa arni (a) Fore'r creu, (b) Fore temtiad, (c) Fore heddyw, (d) Fore Farn. Credai er hynny nad oedd wedi cael gweledigaeth eglur ar le mor dywyll, a chofiwn iddo ddweyd wrthym un tro nad elai ymlaen a hi. Gofynnais iddo paham. "Wel," ebai, "wrth edrych ar Uffern yng ngoleuni 'Meibl i yr wyf yn rhwym o ganu cospedigaeth dragwyddol, ac wrth edrych arni yng ngoleuni 'Nuw i yr wyf yn rhwym o ganu y Larger Hope." Ond y mae un o'r penhillion ganodd efe wedi setlo meddwl llawer ar y mater,—
"Fwyn Ioan, pwysaist di dy ben yn dlws.
Ar ddwyfron fy Ngwaredwr anwyl i;
A phe bai gwaredigol ddrws,
Apostol Cariad, oni dd'wede ti?"
Cofus gennym am nifer o frodyr mewn eglwys un tro na welsid fyth mo honynt mewn cwrdd gweddi neu gyfeillach grefyddol os na fuasai cwrdd eglwys ar y diwedd, a phe gofynnech i un o honynt hwy gymeryd rhan yn y cyfarfod ni chaech ragor nag ysgydwad pen. Ond cyn gynted ag y dechreuai y cwrdd eglwys, un o honynt hwy fuasai y cyntaf yn cynnyg cadeirydd, ac yn cynnyg ac yn eilio y penderfyniadau yn ol llaw. Wedi un o'r cyf-