Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfodydd hyn, cofiwn i un o'r brodyr droi at Ben i ofyn iddo os yr ystyriai hynny yn iawn. "Nag yw," ebai ar unwaith, hawl brawd i godi mewn cwrdd eglwys yw ei fod yn plygu mewn cwrdd gweddi." Tybed nad oedd yn iawn, a thybed na fuasai gwell graen ar ein heglwysi pe tae brodyr ffyddlon y cyfarfodydd gweddi yn brif siaradwyr y cwrdd eglwys?

Rai blynyddau yn ol, cyhoeddwyd Oriel o Weinidogion y Bedyddwyr ar gynllun hollol newydd yn ol tyb y cynllunydd, ac yr oedd llawer o siarad ac ysgrifennu am yr oriel wedi bod ymlaen llaw. Gwnelid yr Oriel i fyny a choeden fawr, a gosodid canghennau o honi i gynrychioli gwahanol dalentau'r pulpud, sef barddoniaeth, athroniaeth, diwinyddiaeth, hyawdledd, &c., a gosodid darluniau y gweinidogion i hongian ar y canghennau. Pan ddaeth yr Oriel o dan lygad Ben dywedodd ar unwaith, "Wel, wel, dyma hi! Darwiniaeth yr ugeinfed ganrif! Gwneid mwnci's o weinidogion yr Efengyl!"

Tra yn gorwedd ar ei wely yn ystod ei gystudd olaf digwyddodd i ddyn tal, teneu, heb fod ei "floneg yn ei flino" fyned i fewn i dŷ Mr. Jenkin Phillips,