Maesgwyn. Drwy fod ffenestr ei ystafell yn gyfeiriedig i'r fan honno, yr oeddid yn gallu gweld y sawl elai i fewn ac allan oddi yno, ac yr oedd ei chwaer Mary yn treulio oriau yn y fan honno, ac yn dweyd wrtho am bob un adnabyddus iddo elai heibio, &c.; ond cyn gynted ag yr aeth y dyn tal, teneu hwn i fewn i lawnt y Maesgwyn, dechreuodd y cwn gyfarth. "Halo," ebai yntau yn sydyn, "beth sydd ar gwn Maesgwyn?" Ac ebai'i chwaer, —O! hwn a hwn sydd yn mynd i fewn yno." "O! wel," ebai yntau, "mae'r hen gwn yn gwybod o'r gore mai twrr o esgyrn sydd yn nesu atynt.
Pwy ddarlunia ei deimladau Mawrth 20fed, 1900 (dydd ben—blwydd ei dad pe yn fyw) tra yn darllen "A Book of Strange Things," a'r bennod ar "Lonely God." Aeth yntau i deimlo ei fod yn unig iawn mewn byd fel hwn heb dad. Daeth y teimlad hwn drosto cyn hyn pan y dywedodd,—
"A dwed fy mhobpeth, dweyd a gwneud,
Mai byd yw hwn fydd mwy heb dad."
Brudded yr ysgrifennodd ar glawr y llyfr,―