Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur Awen Ben Bowen.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n ddydd pen blwydd fy nhad,
"Duw unig" glywaf fi;
Mae'r byd heb dad, ac O! bruddhad,
"Unig" fy hun yw nghri.


Ond er yr holl ddywedodd, dilys gennym gredu yr erys ambell ddarn o'i bregethau can hired a dim bron. Credai mewn pregethu, ac hoff oedd o'r gwaith. Cennad o ddifrif oedd yn y pulpud. Ni ymgeisiai o gwbl at godi crechwen drwy'r gynulleidfa, er y buasai tonnau o foddineb yn llifo dros wenau y gynulleidfa tra y byddai yn pregethu; ond fel y dywedodd un yn ddiweddar, "pertrwydd ymadrodd, a disgleirdeb a phrydferthwch ei feddwl, oedd yn creu y tonnau hynny." Cofus gennym i frawd ofyn iddo un tro, paham na ddeuai a thipyn o'r humour oedd ynddo i'w bregethau. "O," ebai, "mae lle i wit, ond dim ond i honno fod yn ei lle y mae o'r gorau; ond lle i ddifrifwch ac nid i ddigrifwch yw y pulpud."

Cofiwn am dano yn myned oddicartref i supplyo am y tro cyntaf erioed, ac i eglwys fechan y Bedyddwyr yn Corntown ger Pen y Bont ar Ogwr yr oedd yn myned. Hebryngasom ef dros fynydd Cwmparc cyn belled a gorsaf y rheilffordd yng Nghwmogwy. Er fod ei galon ar dân