gan awydd sanctaidd am wasanaethu ei Feistr yn y pulpud, crynai ei wefus er hynny. Pan ddychwelodd yn ol yr oedd gwedd arall ar ei wyneb—nid am iddo gael croeso brwd gan yr eglwys fechan,— nid am iddo dderbyn tâl da am y supply,—os y cofiwn yn iawn wyth swllt neu ddeg oedd hwnnw,—nid am iddo gael addewid am supply arall, y mae hynny yn ysbrydiaeth i'r myfyriwr; ond am iddo gael bod yn gyfrwng yn llaw Ysbryd Duw i argyhoeddi dwy ferch ieuanc i ymuno â byddin yr Oen, yr hyn na welwyd yn yr eglwys honno ers blwyddi, ac fe roddodd hyn ynni adnewyddol ynddo gyda'r gwaith o bregethu Crist.
Safai yn syth yn y pulpud bob amser. Anfynych y tramwyai ar hyd—ddo fel creadur aflonydd, er yn credu yn gymaint a neb mewn ysgogiadiaeth, fel yr oedd yn naturiol disgwyl i un wedi ei godi i fyny o'r crud yn swn adroddiadaeth. Ysgydwai ei law ddehau yn fynych—yr oedd ei lais yn glir, a swniai bob gair a llythyren yn groew. Ac fel yr ysgrifennai Mr. D. Davies, Cwmaman, Aberdâr, atom—"Dim ond un cyfleustra gefais i'w weled a'i glywed, ac y mae yn dda gennyf fy mod wedi ei weled fel y dywedais wrthych