yn Aberdâr. Ond anghofiaf byth y dylanwad a gafodd arnaf yn dechreu y gwasanaeth yng Nghymanfa Jerusalem, Ton, Pentre. Y darlleniad mwyaf bendigedig o'r Beibl glywais erioed, a'r weddi fwyaf bwrpasol a glywais ac a deimlais erioed. Ac hefyd yr olwg nefolaidd arno yn y pulpud. O! gymeriad beautiful ddywedai i."
Byrr fu ei oes fel pregethwr. Rhwystrwyd ef gan afiechyd i gario ei gynlluniau allan. Pregethodd unwaith i'r Cymry yn Cape Town, a chadwodd wasanaeth claddu rhai troion. Ysgrifennodd rai pregethau yn Kimberley; ond ni ddaeth a'r un o honynt gartref. Credwn er hynny iddo wneud ei fywyd ar ei hyd yn bulpud, a thraddododd bregethau lu i ni beth bynnag. Trodd ei wely cystudd yn gyrchfan engyl, ac yn gysegr sanctaidd. Gwnaeth gyfaill o angau, a chafodd aml i gyfrinach ganddo. Cyn cefnu arnom wedyn, gofalodd droi gwely angau yn bulpud, a thraddododd bregeth rymus drwy'i farwolaeth foddlongar, a thrwy gystudd caled ond amyneddgar,—
"Os yw cur yn fy llesghau:—os yw'r nos
Oer yn hir: mae'r golau
Yn ymyl Ior yn amlhau,
Iesu wyr beth sy' orau."