Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR YNYS.

TYRD i'r cwch fy nhirion,
Hwyliwn tros y lli;
Hwnt i bell orwelion
Mae ein cartre ni.

Parod wyf i rwyfo
Wrth dy amnaid ferch;
Cyrchwn tuag yno
Ym mhleserfad serch.

Gwn am brydferth hafan,
Hwnt i niwloedd cur;
Cluda'r awel weithian
Beraroglau'i fflur.

Tyrd o'r cwch fy nhirion,
Gâd y tonnog li;
Ynys dlos Breuddwydion,
Awn meddiannwn hi.

1928.