Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y PRIS.

ER dryllio tannau'r delyn
Ddiddorai 'nghalon gynt,
Mae eto ambell nodyn
Disberod yn y gwynt;
Ystormydd wnaeth yn gandryll
Freuddwydion melys ffol,
Rhaid wrth y nos er ennill
Gobeithion dydd yn ôl.

Er prudded orfod casglu
A ddrylliwyd yn y drin,
Y wermod ddysg im garu
A gwrthfawrogi'r gwin;
'Dyw colli'r holl fwyniannau
Oedd yn y cwpan llawn,
Ond ein hyfforddi ninnau
I ddysgu prisio'n iawn.

Rhaid yw wrth aeaf eilchwyl
A rhodio rhandir cur,
Neu ofer iawn fydd disgwyl
Yr hâf a'i felfed fflur;
Anghofir popeth wariwyd
(A digon hawdd fydd hyn),
Wrth weld y delyn ddrylliwyd
A'i thannau eto'n dynn.

1928.