Prawfddarllenwyd y dudalen hon
EIFION WYN.
GWYDDOM bellach faint yr alaeth
Pan y ciliodd yn y glyn,
Ond ein cysur yn ein hiraeth
Ni bu farw Eifion Wyn.
Syrthiodd gwerin dlawd i wylo
Aeth calonnau gwlad yn llyn,
Ond daw adlais i'n cysuro,
"Mynd i'r nef wnaeth Eifion Wyn."
Beth os yw ei Fenna'n unig
Ac yn methu deall hyn?
Iesu tirion a charedig,
Cofia briod Eifion Wyn.
Pan ddaw stormydd hydre'i chwythu
Yn henafol dderw'r glyn;
Cofia'n dyner y pryd hynny
Am Beredur Eifion Wyn.
Wrth y bedd ym mynwent Chwilog
Mae yr awen heddiw'n syn;
Ac o'r "ywen ddu ganghennog"
Hola serch am Eifion Wyn.
Llawer beddrod dinod harddwyd
Gyda marmor drud cyn hyn;
Codi colofn yn ei fywyd
Gredaf i wnaeth Eifion Wyn.