Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei chalon gurai'n gynnes
At weiniaid o bob rhyw,
A chollwyd boneddiges
Pan hunodd Leisa Puw.

Nid proffes oedd ei chrefydd,
I ddilyn sect, a phlaid,
Ond codi'r dioddefydd
O'r gwter oer a'r llaid;
Bu'n ffyddlon yn y capel,
(Nid dyna'i nerth ychwaith),
Ond gwyddai yn y dirgel
Am grefydd dillad gwaith.

Daw'r gaeaf tros Foel Fadian
Ac i'r llechweddi llwm,
Ymdroella'r gornant fechan
Fel arfer yn y cwm;
Bydd rhywrai eto'n disgwyl
Am glywed sŵn ei throed,
A bolltio'r drws yn orchwyl
Creulonach nag erioed.

Tros deulu yn ei alar
Boed diddos aden Duw.
Er dryllio breuddwyd cynnar
Nid annobeithiol yw;
A hithau'r fam oedrannus
Yn nhawch yr hirnos ddu,
Boed iddi'r meddwl hapus
Bod gore'r nef o'i thu.