Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daw plant y blin drallodion
"Ar dorriad bore wawr,"
"Oll yn eu gynnau gwynion
Yn iach o'r cystudd mawr;'
Try trymion groesau'r ddaear
Yn heirdd goronau drud,
Fydd yno neb mewn galar,
Na thelyn aur yn fud.

1927.