ER COF
Am y ddiweddar Mrs. Catherine Evans, gynt o'r "Mynachdy," Aberhosan.
I FYNWENT Aberhosan trof yn awr,
Er distyll deigryn parch ar lawer bedd;
Lle'r huna rhywrai mewn difreuddwyd hedd
Nes delo'r alwad i'r Gymanfa Fawr.
Mae'r galon bron llesteirio tan ei chlwy,
Wrth gofio'u rhoddi yn y graean llaith;
Tra mynn daioni dyfu yn y graith,
Nes hulio'r llwybrau a gerddasant hwy.
Wrth hundy Catrin Ifans, oedi'n syn,
Er dwyn i gof rinweddau'i bywyd hi;
Nes teimlo ei bod heddiw'n fwy ei bri
A gwawl ei heinioes faith yn brydferth wyn.
Meithrinodd er yn ifanc barch i Dduw,
A'i ordinhadau cysegredig Ef;
Prif nôd ei chalon ydoedd ennill Nef
Ar ben y daith, a hynny trwy ei byw.
Ba ryfedd hynny, wedi cofio'r trâs
Y deilliodd hi ohono'n 'more'i byd;
A chadwodd hon y traddodiadau'i gyd
Heb lithro unwaith i rigolau bâs.
Bu drws ei chartre beunydd led y pen,
Er estyn croeso brwd i'r Ysgol Sul;
Pan ydoedd rhagfarn a'i damcaniaeth gul
Yn poeri ar broffwydi wawdlyd sen.