Dewisodd gymar o'r un anian bur,
I ymladd brwydrau ac ystormydd certh,
Tra gwyddent ym mhob gofwy brofi nerth
Oedd anwel yn eu cynnal ym mhob cur.
I'r oedfa fore Saboth cerddai'r ddau,
A'r daith ddiarffordd ni chyfrifent hwy ;
Nid ydoedd rwystrau, bron na thorrent trwy
Mor dynn eu gafael fel nad oedd ryddhau.
Cynyddai'r teulu ar yr aelwyd glyd,
Cynyddai hefyd bryder tad a mam;
Rhag i'w hanwyliaid orfod goddef cam,
Wynebu'n eofn raid heb ofni'r byd.
Ond er y gofal a'r pryderu dwys,
A phopeth ychwanegwyd yn eu plith;
Rhaid oedd wrth grefydd iawn, nid digon rhith
I ddau o'u rhuddin hwy i roi eu pwys.
Meithrinwyd plant yn sŵn y gân a'r mawl,
A'r weddi hwyrol wedi gwaith y dydd ;
I'r aelwyd honno y teyrnasa ffydd
Nid oes i'r gelyn ei herfeiddiol hawl.
Ond mewn sydynrwydd collodd briod cu,
A thad gofalus i rai bach di-gefn ;
Tra llwyr fodlonodd Catrin yn y drefn
A gwelodd ddwyrain yn y cwmwl du.
Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/123
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon