Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aed y plas a'i holl anrhydedd
I uchelwyr moeth y wlad,
Haeddu parch a wna dinodedd
Bwthyn clyd fy mam a nhad.

Rhed y nant i lawr o'r mynydd
Daw tan ganu heibio'i ddor,
Hiraeth yw ei thestun beunydd,
Am ei chartre yn y môr;
Gwn i minnau allu canu
Ganwaith yn ei chwmni hi,
Ond mae 'stormydd wedi llygru
Peraidd dant fy nhelyn i.

Adeg ddedwydd ydoedd honno
Pan oedd mam yn siglo 'nghrud,
Heddiw llonydd ydyw'r dwylo
Ac mae'r swynol lais yn fud;
Minnau yn fy ngwynfa wylwn
Ddagrau fy ieuenctyd gwyn,
Wylaf heddiw am na fedrwn
Alw'n ôl yr oriau hyn.

Dysgu cropian, dyna orchwyl
A gyfrifwn gynt yn fawr,
Mae'r codymau hynny'n annwyl,
Yn fy ngolwg i yn awr;
Gwyddwn i bod breichiau cariad
Yn gofalu na chawn glwy',
'Doedd y rhain ond gwael fynegiad
O godymau llawer mwy.