Gwn pe buaswn i heb brofi
Ysgafn groesau bore oes,
Buasai f'ysgwydd wedi torri
Tan arteithiol bwys y groes;
Dysgu cario'r croesau bychain
Wnaeth yn gref fy ysgwydd wan,
Rhag fy syrthio .lawr yn gelain
Tan eu trymach yn y man.
Dysgais weddi fach i'w dwedyd
Pan yn mynd i gysgu'r nos,
Ac wrth godi'r bore hefyd
Cofiwn ddweyd y weddi dlos;
Os caf fynd i'r nefoedd rhywdro
I'w glodfori ger Ei fron,
Wedi'r blinder glaniaf yno
Yng ngoleuni'r weddi hon.
II.
Treuliais lawer orig ddedwydd
Yng nghwmpeini'r grug a'r brwyn,
A thelorai pob uchedydd
Emyn bychan er fy mwyn;
Hedydd arall sydd yn pyncio
Uwch yr hen lanerchau mŷg,
Erbyn heddiw gwelir yno
Newydd frwyn, a newydd rug.
Pawr y defaid y llechweddau
Megis yn y dyddiau fu,
A mynychir y corlannau
Eto gan fugeiliaid lu;
Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/20
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon