Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOLCHFA'R BUGEILYN.

YNG nghafnau y creigiau ysgythrog,
Tramwyfa y curyll a'r frân,
Y gwelir yr olchfa fyd-enwog
Osodwyd yn destun i'r gân;
Canfyddwyd "Hugh Crowner" Bugeilyn
Ym mhlygain canrifoedd cyn hyn,
Yn annos ei breiddiau o'r clogwyn
I ddefod lanhaol y llyn.

Preswylwyr afrifed y "Moelydd,"
A helfa y maith "Lechwedd Crin,"
I'r gorlan a ddont at ei gilydd
Er gallu eu trafod a'u trin;
Tra eraill o'r hyll "Ffrydiau Duon"
A gyrchir yn gyson i'r lle,
Bugeiliaid a chŵn yn ymryson
Wrth ymdrin â byddin mor gre'.

'Rol cyrraedd rhaid aros ychydig
Cyn dechreu ar orchwyl mor fawr,
A hwythau'r defeidgwn lluddedig
Orffwysa o'u gofal yn awr ;
Ymdrafod y mynydd a'i fawredd
Wna'r golchwyr a'u pwys ar eu ffyn,
Gollyngwyd ystor o hyawdledd
Gwerinol ar geulan y llyn