Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llewyrchi ar golofnau
Heirdd fynor meibion ffawd,
Cuseni hefyd flodau
Uwch llwch y dyn tylawd.

Yn dy oleuni rhadlon
Bu llawer mab a merch,
Cyn hyn yn newid calon
Yn oedfa santaidd serch;
Diolchaf iti heno
Garedig leuad hardd
Am dawel, dawel wylio
Uwch hunell mam y bardd.

1926